© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Athletics Heroes

 

Enw: John McFall

Camp: Gwibiwr Paralympaidd

 

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?

Fel plentyn, roeddwn yn lwcus iawn o allu cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon amrywiol.

Pa chwaraeon oeddech chi’n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?

Hoci, athletau, pêl droed, rygbi, tenis, sboncen ac unrhyw beth arall fydden nhw’n gadael i mi roi cynnig arno!

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am chwaraeon?

Yr awyr iach a’r ymarfer, a’r synnwyr o gyflawni’n gorfforol.

Sut ydych chi’n cadw’n heini ac yn iach?

Fel athletwr llawn amser mae’n hawdd iawn cadw’n iach ond allan o dymor rwy’n hoffi beicio mynydd a rhedeg.
 
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
 

Fy nhad mae’n bur debyg, roedd yn athletwr da iawn ei hun pan oedd yn ifanc. Fe wnaeth o fy annog i gymryd rhan mewn chwaraeon, a’u mwynhau, o oedran ifanc.

 

Pa mor bwysig yw Campau’r Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru yn eich tyb chi?

Plant yw ein dyfodol. Mae Campau’r Ddraig yn ffordd wych o gael plant i fod yn egnïol ac yn iach, gan eu helpu i feithrin hyder a dysgu sgiliau byw allweddol fel cyfathrebu a gwaith tîm. Mae hefyd yn fan cychwyn rhagorol ar gyfer y rhai sydd eisiau dilyn chwaraeon yn fwy difrifol.