Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon ? Yn yr ysgol ac yn y parc lleol.
Pa chwaraeon oeddech chin cymryd rhan ynddynt yn blentyn ? Pl droed, rygbi, criced, tenis a golff.
Beth ydych chin ei fwynhau am chwaraeon ? Cystadlu, y teimlad o ysbryd tm, ymarfer corff a cyfle i ddangos eich doniau. Sut ydych chin cadwn heini ac iach? Chwarae tenis yn broffesiynol, defnyddio'r gampfa yn rheolaidd, trio bwyta bwydydd sy'n dda i chi.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon? Chwaraewyr tenis gorau'r byd gan fy mod o hyd yn trio efelychu hwy.
Pa mor bwysig yw Campaur Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru? Rwyf yn llwyr gefnogol o unrhyw fenter sydd yn annog bobl ifanc i gyfranogu mewn chwaraeon. Rwy'n credu caiff Campau'r ddraig ddylanwad mawr ar y nifer o blant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru, a felly mae'n bwysig iawn. Y gobaith yw bydd chwaraeon Cymru yn elwa yn y pendraw, fel bydd bywydau y plant a fydden, fel arall, ddim wedi mwynhau y manteision o ymgymryd chwaraeon. |