© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Cael Eich Plant I Gymryd Rhan

Mae rhieni'n chwarae rôl allweddol yn agwedd eu plant tuag at chwaraeon.

Mae'r adran hon yn edrych ar sut gallwch chi helpu eich plant i fwynhau chwaraeon; y manteision i iechyd a'r manteision cymdeithasol a beth allwch chi ei wneud i ennyn diddordeb eich plant.

Fe allwch chi wneud gwahaniaeth!

Meddyliwch beth yw eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau chi a darganfyddwch sut mae gwneud cyfranogiad eich plentyn mewn chwaraeon yn fwy pleserus.

Pam fod plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon?

Mae'n amlwg dydi? Mae plant yn chwarae am eu bod eisiau cael hwyl a mwynhau eu hunain. Ond nid dyna'r unig reswm.

Mae'n rhoi hyder iddyn nhw
Ac maent yn teimlo rhyw synnwyr mawr o gyflawni. I lawer o blant, chwaraeon yw eu cyfle hwy i ddisgleirio, ond gall eraill deimlo'n israddol iawn. Felly cofiwch wneud yn siwr mai'r gamp mae eich plentyn yn ei chwarae yw'r un fwyaf addas i chi.

Chwaraewr tm
Mae plant yn hoffi teimlo'n rhan o dm ac mewn chwaraeon maent yn gallu bwydo oddi ar egni a brwdfrydedd aelodau eraill eu tm. Mae'n gallu eu tynnu allan o'u cragen.

Nid ennill yw popeth
Mae chwaraeon yn gyffrous iawn. Ond dydi pob plentyn ddim eisiau ennill. Tra bo rhai plant yn mwynhau cystadlu, mae'n gwneud eraill yn swil. Felly peidiwch 'u gwthio! Fe all ddychryn eich plentyn a gwneud iddo gymryd yn erbyn chwaraeon yn llwyr. Os yw eich plant yn mwynhau ennill, edrychwch a oes cystadlaethau iddynt gymryd rhan ynddynt yn erbyn plant yr un oed.

Cofiwch sicrhau cydbwysedd rhwng chwaraeon a chwarae.

Sut i'w cael i gymryd rhan

Amrywiaeth yw'r gyfrinach
Helpwch eich plentyn i ddewis y gamp addas iddo ef neu hi. Efallai ei fod yn casau chwaraeon raced, efallai nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb mewn cicio pl ac efallai ei fod yn ceisio osgoi athletau bob gafael.

Felly beth am roi cynnig ar rygbi yn ei le?

Mae llawer o chwaraeon heblaw am y rhai ar gwricwlwm yr ysgol cofiwch.

Cydbwysedd iach
Peidiwch disgwyl gormod gan eich plant. Gellir cynnwys chwaraeon gyda gweithgareddau eraill, fel chwarae offerynnau cerdd neu ymweld ffrindiau.

"Fy newis i"
Gadewch i blant gymryd rhan yn eu hamser eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain.

Cymryd rhan eich hun
Fe allwch chi fod yn esiampl dda drwy gymryd rhan mewn chwaraeon eich hun. Mae chwaraeon yn ffordd dda o dreulio amser gyda'ch gilydd fel teulu.

CLICIWCH YMA i weld pa glybiau Campau'r Ddraig sy'n bodoli yn eich ardal. Cysylltwch 'ch Cydlynydd lleol.

Sut allaf i gymell fy mhlentyn?

Allwch chi ddim prynu eich plentyn! Fydd o byth yn Gavin Henson nesaf Cymru os yw'n well ganddo at ei gesail yn nwr y pwll nofio nag ar gae rygbi. A waeth faint fyddwch chin ei orfodi i dreulio ei amser yn ymarfer goliau adlam, fydd dim yn tycio!

Cymerwch amser
I weld beth yw diddordeb eich plentyn ai annog yn garedig. Beth am fynd ag ef i wylio gm i ddechrau? Gm bl droed gyfeillgar yn eich parc lleol hyd yn oed?

Does unman yn debyg i gartref
Mae cicio pl yn yr ardd gefn yn ffordd dda o ennyn diddordeb eich plentyn mewn chwaraeon. Does dim yn fygythiol yn yr amgylchedd yma a bydd yn rhoi hyder ich plentyn.

Arwain drwy esiampl
Os ydych chin cymryd rhan mewn chwaraeon, ewch ch plentyn gyda chi. Beiciwch ir siopau yn lle mynd yn y car. Peidiwch gwylio or ochr ewch i mewn ir pwll nofio gydag ef.

Gwybodaeth
Maen syniad da ceisio deall y gamp mae eich plentyn yn ei chwarae. Dysgwch sylfeinir gm, y lleoliad maen chwarae ynddo ar sgiliau mae eu hangen. Fyddwch chi ddim yn teimlo ar goll wedyn pan fydd yn sn am y bas gyfnewid wych yna, ar ddolen ddwbl a arweiniodd at gais buddugol y tm!

Digon o ffydd
Maen rhaid i chi fod ffydd bod eich plant yn gwybod beth maen nhwn ei wneud. Gadewch iddynt wneud eu penderfyniadau eu hunain a dysgu oddi wrth eu camgymeriadau.

Problemau Cyffredin i Rieni

Maen bwysig bod yn ymwybodol or peryglon pan foch plentyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Bydd rhoi eich plant dan ormod o bwysaun gwneud mwy o ddrwg na lles. Er eich bod yn talu ffwoedd mawr mewn clybiau o bosibl ac yn danfon eich plant iw gemau, dydi hynny ddim yn golygu bod raid iddynt ennill bob gm maent yn ei chwarae.

Bydd rhai rhieni eisiau gwireddu eu breuddwydion hwy yn y byd chwaraeon drwy gyfrwng eu plant, ond meddyliwch eto cyn gwthio gormod ar eich plant. Efallai mai cael hwyl yw eu nod hwy ac mai ar lefel lai cystadleuol fyddan nhwn rhagori. Yn aml iawn, dim ond chwarae gydau ffrindiau yw eu nod hwy.

Gallai eich uchelgais chi wneud iddynt deimlo dan straen a pheri embaras iddynt o flaen eu ffrindiau. Peidiwch gwthio eich plentyn i fod yn bl droediwr proffesiynol os mai dim ond cicio pl mae ef eisiau ei wneud.

Does dim oi le ar fod yn uchelgeisiol ond maen hawdd iawn mynd dros ben llestri.

Cofiwch mai dim ond canran fechan o blant syn cymryd rhan mewn chwaraeon fydd yn mynd ymlaen i wneud bywoliaeth yn y maes hwn. Pleser, twf a datblygiad eich plentyn ddylai fod yn brif flaenoriaeth gennych chi.  

Eich swyddogaethau ach cyfrifoldebau

Fel rhiant, rydych yn gyfrifol am sawl agwedd ar gyfranogiad eich plentyn mewn chwaraeon. Dylech ei annog, ond nid pwyso arno i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Her newydd?  
Os yw eich plentyn yn dechrau colli diddordeb, holwch pam a meddyliwch am ffyrdd o ailennyn y diddordeb hwnnw. Efallai ei fod angen her newydd. Drwy annog eich plant i roi cynnig ar chwaraeon newydd, byddant yn teimlo mai hwy syn rheoli.

Mae digon o chwaraeon ar gael, felly os nad ydynt yn rhy hoff o bl fasged, efallai fod athletaun fwy priodol.

Holl ddiben cymryd rhan mewn chwaraeon yw cael hwyl a dysgu sgiliau newydd.

Cefnogaeth emosiynol
Po fwyaf fydd plentyn yn cymryd rhan, po fwyaf o gefnogaeth fydd ei angen gennych chi. Os yw eich plentyn o ddifrif am chwaraeon, bydd dan straen weithiau; bydd angen eich help chi bryd hynny.

Gall chwaraeon greu emosiynau dwfn iawn, fel gorfod ymdopi cholli, neur cyffro ar adrenalin a deimlir wrth ennill. Efallai mai dymar tro cyntaf ich plentyn brofir teimladau hyn, ond nid y tro olaf mae chwaraeon yn lle da i gychwyn. Rhowch gymaint o gefnogaeth ag y bo modd iddynt drwy fynd i gymaint ag y gallwch ou gemau au cystadlaethau byddant yn gwerthfawrogir ffaith eich bod yno.

Byddwch yn rhan o bethau
Os yw eich plentyn angen eich cefnogaeth, gwnewch yn siwr eich bod wrth law iddo. Neu gwell fyth, beth am ddechrau gwirfoddoli eich gwasanaethau, neu ddechrau hyfforddi. Byddwch mewn sefyllfa well o lawer iw helpu.

Chwaraer gm  
Unwaith mae eich plant yn dechrau cymryd rhan mewn chwaraeon, mae mwy o straen, fel paratoi ar gyfer treialon, ennill a cholli, gwneud yn dda gydar hyfforddwr ac aelodau eraill y tm. Gwnewch yn siwr eich bod yn ymwybodol o beth syn digwydd.

Cael eich dewis ar gyfer y tm
Mae hyn yn gallu bod yn anodd i blant ar adegau ac i chi. Os yw eich plentyn yn dechrau poeni beth maer hyfforddwr yn ei feddwl ohono, gan gymharu ei berfformiad gydag aelodau eraill y tm, gall deimlo dan straen.

Maen rhaid i chi ei atgoffa i ganolbwyntio ar ei allu ei hun. Gosodwch nodau iddo a siarad am y ffyrdd ou cyrraedd.

Cofiwch ei atgoffa nad yw methu mewn un treial ddim yn golygu y bydd yr un peth yn digwydd y tro nesaf.

Cyfleu neges briodol
Does neb yn hoffi colli, dylid atgoffa plant mai sut rydych yn chwarae syn cyfrif. Gall cwestiynau fel ddaru chi ennill? a wnes di sgorio? wneud ich plant deimlon fethiant.

Canolbwyntiwch ar gynnal hyder eich plentyn. Gofynnwch iddo ddaru o fwynhau chwarae a sut allent fod wedi gwneud yn well.

Yn bwysicach na dim, gofynnwch ich plentyn gafodd o hwyl.

Cymysgun dda gydar tm
Efallai mai dymar tro cyntaf ich plentyn fod yn rhan o dm; dylech ei annog i ddod i adnabod yr aelodau eraill. Maer un peth yn wir am eich perthynas chi gydar hyfforddwr ar rhieni eraill.

Mae gennych nodau gwahanol i gyd: rydych chi yn poeni am berfformiad eich plant chi, ar rhieni eraill am eu plant hwy, ar hyfforddwr am y tm yn gyffredinol.

Os bydd yr hyfforddwr yn gwneud penderfyniad syn eich gwneud yn anfodlon, peidiwch chodi helynt oher.

Rhowch gynnig ar hyfforddi eich hun!

Sut gall Rhieni helpu gyda Champau'r Ddraig?

Nid yw helpu'n golygu rhoi oriau ac oriau o'ch amser o angenrheidrwydd. Mae pawb i'w weld mor brysur y dyddiau hyn ond eto rydym am i blant ddatblygu i fod yn oedolion iach. Mae gan chwaraeon ran hanfodol i'w chwarae yn y datblygiad hwn.

Efallai nad yw rhai rhieni'n rhagori mewn chwaraeon ac efallai nad ydynt yn teimlo bod ganddynt y cymwysterau priodol, ond does dim raid i Gynorthwywyr y Ddraig fod yn hyfforddwyr cymwys i helpu. Gallant helpu mewn ffyrdd eraill, fel:

  • Darparu cludiant
  • Golchi'r cit
  • Llenwi'r gofrestr
  • Gofalu am arian y clwb
  • Annog a chymeradwyo o'r llinell ochr

 I ddatblygu clybiau ar l ysgol, mae angen cynorthwywyr i helpu gyda rhedeg y sesiynau hefyd wrth gwrs, i fod yn rheolwyr timau, yn hyfforddwyr neu'n ddyfarnwyr.

Sut mae cymryd rhan?

  • Holwch hyfforddwr clwb eich plentyn os oes modd i chi helpu gyda'r clwb ar l ysgol.
  • Ymateb i geisiadau gan glybiau Campau'r Ddraig pan fydd eich plant yn dod hwy adref.

Am wybodaeth bellach am Gampau'r Ddraig, cysylltwch 'ch Cydlynydd lleol. Ceir manylion cyswllt llawn y Cydlynwyr i gyd ar y dudalen Cysylltu ni.

 

Adnoddau a Deunyddiau


» Cyngor ar Recriwtio a Chadw Gwirfoddolwyr ?

Cysylltiadau


» Ydach chi'n Rhiant Hunllefus?
» Ymddygiad Rhieni
» Byddwch yn Bositif
» 10 Cwestiwn Allweddol

 
Click here to play in the Dragon Arcade

Cael hyd i'ch cydlynydd lleol

Awgrymiadau Gwefan

Competition

Enillwch ddetholiad o wobrau ar gyfer eich hoff gamp o blith Campau’r Ddraig

» Cliciwch yma