dragon-sport





Welcome to dragon sport   email a friend change language
English > Syniadau Da > Gwirfoddolwyr > Elizabeth Vernon
Back
heroes-vol-elizvernon2.jpg

Enw :
Elizabeth (Libby) Vernon
Gwirfoddolwr 26 oed


Beth ydych chi’n ei wneud? 
Gwirfoddolwr Campau'r Ddraig.

Beth yw eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau chi ? 
Fy rôl yw helpu aelodau Tîm Datblygu Chwaraeon Abertawe i gynllunio a chyflwyno sesiynau chwaraeon hwyliog i blant a phobl ieuainc yn y gymuned.  Fel gwirfoddolwr, rwy’n credu mai fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod sesiwn yn bleserus a diogel, bod y syniad o chwarae teg yn cael ei hybu ac, yn fwy na dim, fy mod yn gynorthwy-ydd hwyliog a chyfeillgar, yn annog eraill i gael hwyl hefyd. Rwy’n credu bod hynny’n rhan allweddol o wirfoddoli.                                                       

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan? 
Roeddwn wedi graddio o Brifysgol a doedd gen i ddim cynlluniau pendant ar gyfer gwaith felly rhoddais fy enw i fod yn Wirfoddolwr Campau’r Ddraig, gan fy mod wrth fy modd efo chwaraeon ac eisiau ymwneud â hyfforddi. 

Ble rydych chi’n gwirfoddoli i Gampau’r Ddraig ? 
Mannau amrywiol – yn y gorffennol, rwyf wedi mynychu digwyddiadau mewn ysgolion cynradd, canolfannau hamdden neu barciau.  Mae rhai wedi bod yn ystod y tymor, er enghraifft, clybiau ar ôl ysgol, a rhai yn ystod y gwyliau – fel rhan o raglen haf y timau Datblygu Chwaraeon.    

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am wirfoddoli gyda Champau’r Ddraig ?
Rwyf wrth fy modd yn yr awyrgylch cymdeithasol sy’n cael ei greu gan Gampau’r Ddraig, a’r cyfle i gymryd rhan yn y chwaraeon niferus a gynigir. 

Ym mha ffyrdd mae Campau’r Ddraig wedi eich helpu chi i ddatblygu ?
Mae mynychu digwyddiadau Campau’r Ddraig wedi bod o gymorth yn sicr i mi fagu hyder ac wedi’m cyflwyno i bobl arbennig iawn.  Rwyf wedi derbyn llawer iawn o gefnogaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant ac mae hynny wedi bod o gymorth i mi lansio gyrfa lwyddiannus gobeithio mewn Datblygiad Chwaraeon.

Beth yw eich dyheadau yn y dyfodol ar gyfer Campau’r Ddraig neu i wirfoddoli mewn chwaraeon?
Yn sicr byddaf yn dal ati gyda’m gwaith gwirfoddol gyda Champau’r Ddraig, oherwydd rwy’n credu ei fod yn rhan bwysig o ddarparu cyfleoedd a phrofiadau cyffrous i blant.  Am yr un rhesymau, rwy’n gweithio tuag at weithio oddi mewn i’r sefydliad, fel fy mod yn gallu bod yn rhan o’r tîm datblygu a chynnig syniadau newydd ar gyfer Abertawe.  Wedi dweud hynny, rwyf dal yn meddwl bod gwirfoddoli’n beth da er mwyn dal ati, felly os byddaf yn ddigon lwcus i gael swydd mewn Datblygu Chwaraeon, byddaf yn dal ati i gyflwyno sesiynau pêl droed gwirfoddol rywle yn Abertawe !    


 

Back Top