|
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon? Dechreuais chwarae gemau yn ôl yn yr ysgol, ond Dad a wnaeth ddechrau fi chwarae golff. Ef oedd yn annog fi i gymryd ati i chwarae golff a trfnodd aelodaeth i mi yn y clwb golff lleol.
Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn? Tamaid o bopeth i ddweud y gwir. Pêl droed - lle chwaraeais yn nhîm y bechgyn yn ôl yn yr ysgol, ond hefyd pêl rwyd, hoci, a tennis ac unrhyw beth allwn greu amser i chwarae !
Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon? Rwyf yn hoffi cystadlu yn fy chwaraeon ac yn teimlo'n lwcus i chwarae golff fel bywoliaeth. Mae'n hynod o braf fod allan yn yn yr awyr agored pob dydd - gyrfa gwych rwy'n gallu mwynhau.
Sut ydych yn cadw'n heini ac yn iach? Heblaw yr holl gerdded rwyf yn gwneud gyda'r golff (a mae'n dipyn !), rwyf yn hyfforddi fwyaf drwy'r gaeaf i adael fi'n rhydd i chwarae drwy yr haf. Fel arall rwyf yn mwynhau bwyta ac yfed yn iachus - llawer o ffrwythau a dwr, y math o fwyd a diodydd sydd angen arnoch mewn unrhyw gamp, ond yn enwedig mewn golff lle rydych allan dan yr haul mor gyson.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon? Fy nhad yn bendant – ef oedd yn annog mi i chwarae cymaint o gemau pan yn ifanc ac yn awr mae wrth fy'n ochr fel cadi - byddwn ddim wedi cyrraedd fy'n safon phresennol heb ei gymorth ef, ac hefyd Mam a'm mrawd. Maent i gyd yn gymorth mawr
Gall eich rhieni fod yn ddylanwad enfawr arnoch pan yn blentyn, yn cynnig cymaint o gefnogaeth ac annogaeth, gyrru chi bob man i gystadlaethau ac helpu chi i ymarfer. Mae Dad wedi bod yn gynghorwr gwych i mi ac rwyf yn argymell rhieni eraill i fod yn union mor gefnogol i'w plant.
Pa mor bwysig yw Campau'r Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru ? Mae unrhyw beth sy'n perswadio plant i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gampau yn ifanc iawn yn rhywbeth cymeradwy.
Yn enwedig camp fel golff, na chwaraewyd gan lawer o blant pan roeddwn yn yr ysgol. Mae'n wych felly fod llawer o ysgolion yn cynnwys golff yn eu dewis o gampau drwy fentrau Campau'r Ddraig. Cawn obeithio fydd hyn yn cynyddu nifer y plant sy'n ymrwymedig i chwaraeon yn gyffredinol a gobeithwn weld llawr fwy o arwyr golff o Gymru yn y dyfodol !
A diolch yn fawr i Gampau'r Ddraig am ganiatáu i mi fod yn Arwr Chwaraeon Campau'r Ddraig yn ogystal â Becky Morgan a Louise Davis – dewch ymlaen ferched, cymrwch rhan !!! |