|
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon? Roeddwn yn chwarae golff i ddechrau ar gwrs naw twll bychan yn Y Barri pan oedd fy nhad yn arfer mynd â mi bob hyn a hyn ar y penwythnos, ond wnes i ddim ymuno â chlwb nes fy mod yn 11 oed.
Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn? Pan oeddwn yn yr ysgol gynradd, roeddwn yn cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon – rygbi, pêl droed, criced, tenis ac athletau.
Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon? Fel pob camp arall, y peth gorau yw chwarae’n dda. Mae treulio amser yn ymarfer ac yn chwarae gyda chyd-aelodau eich tîm yn wych ac rwy’n teimlo’n lwcus fy mod wedi cael y cyfleoedd rwyf wedi’u cael drwy chwarae golff.
Sut ydych yn cadw'n heini ac yn iach? Rydym yn cerdded llawer iawn ar gwrs 18 twll ac rwyf hefyd yn ceisio cadw’n iach ac yfed digon o ddwr – yn arbennig pan wyf allan yn chwarae yn yr haul.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon? Roeddwn yn lwcus yn Ysgol Gynradd Oldcastle oherwydd roedd gennyf athrawon brwdfrydig ynghylch chwaraeon. Dysgai Mrs Ryder denis (byr) i ni a dysgai Mr Oldfield rygbi. Yng Nghlwb Criced Pen-y-bont ar Ogwr, Charles Griffiths oedd yr hyfforddwr a Peter Evans oedd fy hyfforddwr i yng Nghlwb Golff Porthcawl. Roedd John Collins yn gymorth mawr i mi hefyd oherwydd arferai drefnu’r hyfforddiant iau ar gyfer Morgannwg.
Mae fy rhieni wedi bod yn gefnogol iawn erioed ac maent wedi teithio i bedwar ban byd i’m gwylio’n chwarae. Maent wedi cael dylanwad mawr arnaf a byddaf yn ddiolchgar am byth iddynt am eu cefnogaeth.
Pa mor bwysig yw Campau'r Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru ? Rwyf wrth fy modd bod Tri Golff wedi cael ei ychwanegu at gynllun Campau’r Ddraig. Drwy gyfrwng Campau’r Ddraig, darperir i blant gyfle i ddysgu’r sgiliau sylfaenol hollbwysig hynny sy’n rhan annatod o chwaraeon amrywiol o oed cynnar, ac mae hynny’n gallu bod yn hynod fanteisiol yn nes ymlaen – yn enwedig wrth symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd lle bydd modd gwneud argraff ar ffrindiau newydd gyda’ch sgiliau chwaraeon medrus! |