05.04.2007
YSGOLION MERTHYR YN DATHLU LLWYDDIANT Y DDRAIG
[Adroddiad o'r Merthyr Express 05/04/07]
Bu plant o bob cwr o Ferthyr Tudful yn dilyn yn ôl traed sêr sbrintio rhyngwladol mewn achlysur arbennig i hybu chwaraeon ieuenctid. Daeth mwy nag 800 o blant o ysgolion ledled de-ddwyrain Cymru i’r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol ar gyfer yr Wyl Gampau’r Ddraig fawr gyntaf.
Y ganolfan athletau gwerth £7.lm, sy’n bencadlys hyfforddi ar gyfer y seren 200m Olympaidd, Christian Malcolm, a’r athletwr anabl elitaidd, John McFall, oedd cartref y sesiwn chwaraeon a oedd yn para drwy’r dydd yng Nghaerdydd yr wythnos hon.
Ymhlith yr ymwelwyr â’r ganolfan roedd disgyblion o Ysgol Iau Goetre, Ysgol Gymuned Abercanaid, Ysgol Gynradd Heolgerrig ac Ysgol Gynradd Pantscallog, a fu’n rhoi cynnig ar 10 camp, yn cynnwys tri-golff, hoci a chriced.
Cynhaliwyd yr achlysur gan gynllun Gampau’r Ddraig a ariennir gan y loteri ac a lansiwyd yn 2000. Ei nod yw denu plant at weithgareddau chwaraeon y tu allan i oriau ysgol. Yn ystod ei saith mlynedd yn weithredol, mae mwy na 100,000 o ieuenctid wedi cael eu recriwtio ac mae mwy na 1,500 o oedolion nad ydynt yn athrawon yn helpu i gynnal clybiau ar ôl ysgol.
Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, “Mae cymryd rhan yn y rhaglen wedi bod o gymorth hefyd i ysgolion gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae Campau’r Ddraig yn dathlu seithfed pen-blwydd hapus dros ben.”
Meddai’r Gweinidog Chwaraeon, Alun Pugh, “Mae gan ein sêr yn y byd chwaraeon rym i ysbrydoli ac annog pobl ieuainc ac er mai dim ond criw bach dethol all gyrraedd y safonau a osodir gan ein hathletwyr elitaidd, gall pawb fwynhau chwaraeon a’r pleser a geir o gymryd rhan ynddynt.
“Mae Campau’r Ddraig yn cyflwyno plant i chwaraeon ar lefel hwyliog, pleserus a sylfaenol, ac yn gweithio ar ehangu eu diddordebau chwaraeon. Rwy’n hynod falch o weld y cynllun yn mynd o nerth i nerth.”