Neges : "Rwyf yn gwneud rhyw fath o ymarfer corff bob dydd a bwyta'n go ofalus."
Enw : Jamie Robinson Chwaraeon : Rygbi
Chwarae rygbi i Gaerdydd a Cymru. Wedi chwarae i dimoedd dan 19 a 21 Cymru, Cymru A a hyd yn hyn wedi ennill 13 cap llawn.}
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon? Dechreuais gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol gynradd.
Pa gampau oeddech chin cymryd rhan ynddynt yn blentyn? Pl Droed, rygbi a criced.
Beth ydych chin ei fwynhau am chwaraeon? Y gystadleuaeth a'r ffrindiau rydych yn gwneud.
Sut ydych chin cadwn heini ac iach? Rwyf yn gwneud rhyw fath o ymarfer corff bob dydd a bwyta'n go ofalus.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon? Fy rhieni ac athrawon chwaraeon.
Pa mor bwysig yw Campaur Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru? Mae Campaur Ddraig yn eithriadol bwysig i ddenu diddordeb plant yn chwaraeon pan yn ifanc iawn ac i ddatblygu y diddordeb yna i mewn i dalent ddilys.
Pa effaith yr ydych yn tybio caiff Campau'r Ddraig ar chwaraeon yng Nghymru ? Gobeithaf mae drwy yr elfennau sylfaenol a ddarparir gan Campau'r Ddraig bydd Cymru'n cynhyrchu llawer o chwaraewyr ar lefel safon y byd.