Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Syniadau Da > Rygbi > Gavin Henson
Yn l
  Gavin Henson  

Neges :
Rwyn credu ei bod yn bwysig manteisio ar bob cyfle a gewch yn yr ysgol i weld beth yw eich cryfderau ac i weld beth rydych yn ei fwynhau."


Enw : Gavin Henson
Chwaraeon : Rygbi


Yn chwarae rygbi dros Gymru

Cyflawniadau chwaraeon:
1982: Ganed: 1 Chwefror, 1982
2001: Chwarae am y tro cyntaf dros Gymru yn erbyn Siapan
2001: Cael ei ddewis yn Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol
2004: Cicio record yng Nghymru o 14 allan o 14 trosgais dros Gymru mewn gm yn erbyn Siapan
2005: Mawrth Ennill Camp Lawn y Chwe Gwlad; Ebrill Cael ei ddewis ar gyfer sgwad taith Llewod Prydain, cipio teitl y Gynghrair Geltaidd gyda Gweilch Castell-nedd Abertawe


Sut ddaru chi ddechrau chwarae?
Dechreuais chwarae pan oeddwn yn bump oed. Arferai fy nhad fynd mi i glwb rygbi Pencoed lle roeddwn yn chwarae ir garfan mini ar garfan dan 8 oed ac yna mynd ymlaen nes cyrraedd y garfan dan 16. Wedyn, dechreuais chwarae im hysgol ac rwyf wedi bod yn chwarae byth ers hynny.

Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Rygbi fu fy hoff gamp erioed ond roeddwn yn ceisio cymryd rhan ym mhob camp yn yr ysgol, o griced, i bl droed i athletau. Rwyn credu ei bod yn bwysig manteisio ar bob cyfle a gewch yn yr ysgol i weld beth yw eich cryfderau ac i weld beth rydych yn ei fwynhau. Rygbi oeddwn in ei fwynhau fwyaf, wrth reswm!

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Roeddwn i bob amser yn mwynhaur agwedd gystadleuol ar chwaraeon. Rwyn cofio chwarae yn erbyn fy ffrindiau yn yr ysgol ac eisiau gwella fy sgiliau ac ennill bob tro! Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn gyfle i chi gymysgu gyda gwahanol bobl a gwneud ffrindiau newydd hefyd.

Sut ydych chi'n cadw'n heini ac yn iach?
Maen bwysig bwyta digon o ffrwythau a llysiau ac yfed digon o ddwr. Mae fy sesiynau ymarfer rheolaidd ar y cae, fy ngemau rygbi am sesiynau yn y gym yn helpu im cadw in heini.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy rhieni yn bendant. Roedd fy nhad yn gapten tm rygbi Maesteg ac roedd yn arfer mynd mi gydag o iw sesiynau ymarfer ddwywaith yr wythnos pan oeddwn yn ifanc. Roeddwn yn arfer ymarfer fy nhechneg gicio gydag o ar chwaraewyr eraill ac rwyn credu bod y sylfaen honno wedi bod yn un dda iawn i adeiladu arni. Fy arwyr ywr Cymro, Ieuan Evans, ar Awstraliad, David Campese. Roeddwn wrth fy modd yn gwylior asgellwyr yn chwarae oherwydd maen nhw mor gyflym, fel Shane Williams heddiw.

Pam maen bwysig i rieni gymryd rhan?
Fyddwn i ddim yn gwneud yr hyn rwyn ei wneud heddiw oni bai am fy rhieni. Maen nhw wedi fy nghefnogi drwy gydol fy ngyrfa ac maent yn dal i wneud hynny heddiw. Gall rhieni helpu i annog eu plant i roi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon o oed cynnar a helpu iw tynnu oddi wrth sgrn y teledu ar cyfrifiadur ac allan ir awyr iach.

Pa mor bwysig yw Campaur Ddraig a pha effaith fydd yn ei gael ar chwaraeon Cymru yn eich barn chi?
Maen hanfodol! Maen helpu i gyflwyno sgiliau sylfaenol cymaint o gampau i blant ac maent yn gallu adeiladu ar hynny pan maent yn h_n. Fe ddysgodd fy nhad i mi beth oedd technegau sylfaenol cicio pl rygbi ac rwyf wedi perffeithio hynny drwy gydol fy ngyrfa. Fe allair plant sydd yma heddiw fod yn sr y dyfodol ac fe all cynlluniau fel Campaur Ddraig eu helpu i gyrraedd eu nod, fel rwyf i a gweddill tm Cymru yn ei wneud heddiw.

Yn l Top