Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon ? Yn yr ysgol.
Pa chwaraeon oeddech chin cymryd rhan ynddynt yn blentyn ? Pl rwyd, tenis, hoci ac athletau.
Beth ydych chin ei fwynhau am chwaraeon ? Popeth, y ffrindiau rwyf wediu gwneud ar cystadlaethau rwyf wediu mynychu. Rwyn mwynhau cymryd rhan yn y rhan fwyaf o chwaraeon, au gwylio.
Sut ydych chin cadwn heini ac iach ? Rwyn rhedeg 4 / 5 gwaith yr wythnos, maen dda i leddfu straen.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon ? Fy athrawes AG, fy hyfforddwraig gyntaf mewn clwb, Wendy White, a Pam Barham, cyn-chwaraewraig i Seland Newydd a hyfforddwraig Awstralia.
Pa mor bwysig yw Campaur Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru ? Rwyn credu ei bod yn bwysig iawn bod pob plentyn yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon. Maen rhaid iddynt fod ar gael i bawb. Os gallwn hybu chwaraeon ymhlith y gynulleidfa sydd gennym yn barod mewn ysgolion yng Nghymru, byddwn yn cynyddu nifer y perfformwyr ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd Campaur Ddraig yn helpu i wneud i hyn ddigwydd. |