Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon ? Yn yr ysgol gynradd, roedd fy athrawes yn fy annog.
Pa chwaraeon oeddech chin cymryd rhan ynddynt yn blentyn ? Gymnasteg, Pl Rwyd, Rownderi, Athletau, Nofio, Tenis.
Beth ydych chin ei fwynhau am chwaraeon ? Teimlon heini ac iach, gwneud ffrindiau da, cwrdd phobl ddiddorol a theithio i lawer o wahanol leoedd.
Sut ydych chin cadwn heini ac iach ? Sesiynau rheolaidd yn y gym a chwarae pl rwyd wrth gwrs.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon ? Fy chwiorydd hŷn, roedd y ddwy ohonynt yn chwarae pl rwyd ac roeddwn wrth fy modd yn eu gwylio. Roeddent yn fodlon ymarfer gyda mi y tu allan ir tŷ.
Pa mor bwysig yw Campaur Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru ? Pwysig iawn, maen hanfodol bod pobl ieuainc yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cymaint o chwaraeon ag y bo modd, au mwynhau. Maen allweddol bod plant yn cael pob cyfle gan fod chwaraeon yn amgylchedd diogel iddynt allu magu hyder ynddo a datblygu sgiliau cymdeithasol da. Maen eu helpu i gadwn iach hefyd. |