Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon ? Mae fy rhieni yn hoff iawn o chwaraeon ac roeddent yn fy annog i roi cynnig ar nifer o wahanol gampau !
Pa chwaraeon oeddech chin cymryd rhan ynddynt yn blentyn ? Gymnasteg, nofio, athletau, pl rwyd, hoci.
Beth ydych chin ei fwynhau am chwaraeon ? Cwrdd phobl newydd, cyrraedd nodau, teimlon heini.
Sut ydych chin cadwn heini ac iach ? Deiet iach, ymarfer yn rheolaidd (rhedeg llawer na, wnes i ddim dweud hynna!).
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon ? Fy mam.
Pa mor bwysig yw Campaur Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru ? Dydi rhieni pawb ddim yn eu hannog i gymryd rhan mewn chwaraeon yn blant. Mae pobl syn cymryd rhan mewn chwaraeon o oed ieuanc yn fwy tebygol o ddal ati drwy gydol eu hoes. Mae Campaur Ddraig yn annog pobl ieuainc i gymryd rhan mewn chwaraeon ac yn annog pobl hŷn i gymhwyso i ddysgu chwaraeon mewn ffordd syn ei wneud yn bleserus i blant. Os bydd mwy o blant yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn chwaraeon o oed ieuanc, gobeithio y bydd gan Gymru fwy o athletwyr o safon uchel yn y dyfodol. |