Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon? Dechreuais pan roeddwn yn 7 oed drwy raglen ysgolion lleol a elwyd yn 'Chwaraeon Cwl' a drefnwyd ar fore Sadwrn. Rhoddodd gyfle i blant flasu wahanol gampau. Ond oherwydd i mi gyrraedd yn rhy hwyr i gofrestru am bl droed, roedd dim dewis gennyf ond i chwarae hoci.
Pa gampau oeddech chin cymryd rhan ynddynt yn blentyn? Dechreuais nofio yng ngyntaf a gwnaeth hyn arwain at wyntsyrffio and ar fyr o dro diflasais ar foreau cynnar a llynnoedd oer. Chwaraeais bl droed yn yr ysgol gan mae dyma'r unig gamp i chwarae wrth fynd i'r ysgol ym Manceinion.
Beth ydych chin ei fwynhau am chwaraeon? Ennill a cyflawni mwy pob tro rwyf yn chwarae i Gymru.
Sut ydych chin cadwn heini ac iach? Rwyf yn ymarfer yn galed fel arfer - yn y gampfa, rhedeg neu ar y cae. Rwyf yn sicrhau fy mod yn bwyta'r bwyd iachach sydd yn cydfynd a'm hyfforddiant ond un o'r agweddau pwysicaf o'n hyfforddiant yw fy niwrnod o seibiant. Mae hyn yn dod bob yn ail wythnos pan byddaf yn gwneud dim ond yn bwyta'r pethau sydd wedi'u gwahardd fel arfer.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon? Mae llawer o ddylanwadau wedi cyfrannu i fy ngyrfa chwaraeon, yn cynnwys fy hyfforddwr cyntaf Derek Milne. Ond y dylanwad mwyaf yw fy nheulu - mae nhw wedi cefnogi fi drwy uchafbwyntiau ac iselbwyntiau bywyd a maent yna o hyd yn gwylio a cefnogi fi, yn enwedig pan yn chwarae i Gymru.
Pa mor bwysig yw Campaur Ddraig yn eich barn chi? Pwysig iawn. Heb gefnogaeth fel hyn efallai na fyddai darpar athletwyr y dyfodol yn darganod y gamp byddan yn dod i fwynhau. Hefyd os yw Cymru i gystadlu ar lefel uchaf chwaraeon mae angen ymglymu mwy o bobl ifanc mewn chwaraeon o oedran ifancach. O'r agwedd iechyd mae'n hanfodol fod pobl ifanc yn deall y buddion mae chwaraeon yn cynnig iddynt ac yn cael y cyfle i gymryd rhan.
Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru? Gall Campau'r Ddraig gael dim ond dylanwad positif wrth ymglymu mwy o bobl ifanc yn chwaraeon, p'un ai ar lefel sport neu fwy difrifol. Drwy y rhaglenni fydd Campau'r Ddraig yn cefnogi, bydd y ieuenctid yn derbyn profiadau positif a fydd o les iddynt yn eu dyfodol. Rwyf innau'n gwybod hyn, achos heb raglen debyg pan oeddwn dim ond yn saith mlwydd oed byddwn erioed wedi cael y cyfle i chwarae hoci a mwynhau y gwobrau o chwarae camp rwyf yn mwynhau cymaint. |