Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Syniadau Da > Golf > Becky Morgan
Yn l
  Becky Morgan  

Neges :
"Efallai mai chi fydd seren y byd chwaraeon ryw ddiwrnod, pwy a ŵyr !"


Enw : Becky Morgan
Chwaraeon : Golff


Golffwraig Rhif 1 Cymru

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais chwarae pob camp yn yr ysgol gynradd. Nid oeddwn yn canolbwyntio ar golff nes mod in 12 oed pan gyflwynodd fy nhaid fy chwaer a minnau ir gm.
Roeddwn yn mwynhau cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon a bod yn heini, ond golff oedd fy ffefryn.


Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Roeddwn yn cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon yn blentyn, fel pl droed, badminton, nofio, tenis, lacrs a golff. Mae cymaint o gyfleoedd i blant gymryd rhan mewn chwaraeon y dyddiau hyn - mewn ysgolion a chlybiau, ac yn enwedig drwy gyfrwng cynlluniau grt fel Campaur Ddraig a Tri-Golff. Does dim rhaid i chi fod yn seren mewn chwaraeon i gymryd rhan chwaith, gan fod cynlluniau fel y rhain yn darparu ar gyfer pawb.

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Rwyf wrth fy modd yn cwrdd phobl a gwneud ffrindiau newydd, ond hefyd dysgu sgiliau newydd a chael hwyl. Does dim byd gwell na hynny. Does dim gwahaniaeth ar ba lefel ydych chin chwarae, maen gymaint o hwyl a pho fwyaf rydych yn chwarae, po fwyaf o hwyl a gewch chi.

Sut ydych yn cadw'n heini ac yn iach?
Rwyn gwneud fy hyfforddiant ffitrwydd i gyd yn ystod y gaeaf ac yn ceisio cynnal lefel fy ffitrwydd yn dda yn ystod y tymor. Mae gennym drelar ffitrwydd syn ein dilyn o gwmpas y lle ar sawl cwrs rydym yn ei chwarae ar daith America ac felly mae hynnyn help - rwyn gallu cadwn heini hyd yn oed pan nad wyf yn chwarae. Mae cadwn heini, iach ac egnol yn bwysig iawn, ar ffordd orau o wneud hynny yw cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon a bwyta digon o ffrwythau ac yfed digonedd o ddŵr!

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy nheulu, sydd wedi fy nghefnogi drwyr amser, heb roi pwysau arnaf. Roeddent yn fy annog i chwarae cymaint ag y gallwn a chael hwyl. Roeddwn wrth fy modd yn gwylio Seve Ballesteros a Nick Faldo yn chwarae pan oeddwn yn tyfu i fyny hefyd.

Ond mae llawer o ferched da yn golffio ar hyn o bryd, fel Becky Brewerton o Gymru a chwaraewyr fel Annika Sorenstam a Michelle Wie wrth gwrs, syn grt ir gm ac yn chwarae golff gwych.


Pam ddylai mwy o blant gymryd rhan yn chwareon ?
Fel rwyf wedi dweud or blaen, maen hwyl a cheir cymaint o gyfleoedd i blant roi cynnig ar bethau newydd heddiw. Dydi chwaraeon ddim ar gyfer y plant syn chwarae i dm yr ysgol yn unig, neu iw clwb, mae mwy o ffyrdd yn awr i blant roi cynnig arni. Bydd plant yn mwynhaur gweithgareddau sydd ar gael drwy gyfwng Campaur Ddraig a Tri-Golff yn sicr ac maent ar gael yn y rhan fwyaf o ysgolion a chlybiau yng Nghymru erbyn hyn.

Pa mor bwysig yw Campaur Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru ?
Maen gynllun rhagorol. Mae chwaraeon yn chware rhan bwysig yn natblygiad plant a phobl ieuainc. Mae Campaur Ddraig yn darparu gweithgareddau hwyliog y byddant yn mwynhau cymryd rhan ynddynt dro ar l tro i blant. Gallwch ddysgu sgiliau newydd a rhoi cynnig ar chwaraeon newydd a fydd yn eich helpu i wella a chadwn heini ac iach. Efallai mai chi fydd seren y byd chwaraeon ryw ddiwrnod, pwy a ŵyr.

Hefyd, rwyn hynod falch bod Tri-Golff yn rhan o Gampaur Ddraig yn awr oherwydd wedyn bydd gennym fwy o golffwyr ieuainc yn chwarae mewn ysgolion a chlybiau ledled Cymru gobeithio, gan anelu at chwarae yng Nghwpan Solheim neu Gwpan Ryder rhyw ddydd.

Yn l Top