Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Syniadau Da > Pêl Droed > Owain Tudur Jones
Yn l
  Owain Tudur Jones w  

Neges :
Mae deiet yn bwysig iawn hefyd. Digon o ffrwythau a llysiau a digon o ddŵr wrth gwrs.


Enw : Owain Tudur Jones
Sport : Pl Droed


Chwaraewr canol cae Dinas Abertawe, cyn chwaraewr Dinas Bangor.

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
O oed cynnar iawn yn yr ysgol gynradd ac roeddwn yn arfer mynd i wylio nhad yn chwarae bob dydd Sadwrn. Maen bur debyg bod hynny wedi ennyn fy niddordeb mewn pl droed. Roedd yn fy annog i chwarae mor aml ag y gallwn gydam ffrindiau.

Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Pl droed yn bennaf, ond yn yr ysgol roeddwn in mwynhau rygbi, tenis a golff, ac rwyn dal i chwaraer rhain. Ond pl droed oeddwn in ei chwarae fwyaf.

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Popeth! Maen fy nghadw yn heini ac iach ond, yn fwy na dim, maen gymaint o hwyl. Mae rhoi cynnig ar wahanol chwaraeon gydach ffrindiau o gymorth i chi wella eich sgiliau personol eich hun a hefyd rydych yn cael cwrdd chymaint o wahanol bobl wrth gymryd rhan mewn chwaraeon.

Sut ydych chi'n cadw'n heini ac yn iach?
Ymarfer bob dydd, naill ai ar y cae pl droed, yn y gym neu yn y pwll nofio. Maen fy helpu i gryfhau. Ond mae deiet yr un mor bwysig hefyd. Digon o ffrwythau a llysiau a digon o ddŵr hefyd wrth gwrs.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy nheulu, fy nau daid yn arbennig. Roeddent yn fy annog i chwarae pl droed bob amser ac yn mwynhau cicio pl efo fi. Roedd fy rhienin cymryd rhan mewn chwaraeon hefyd fy nhad yn chwarae pl droed a mam yn chwarae hoci. Felly, maen bur debyg bod chwaraeon yn y gwaed!

Pa mor bwysig yw Campaur Ddraig yn eich tyb chi? Pa effaith fydd yn ei gael ar chwaraeon Cymru? ?
Maen bwysig iawn, maen gwella sgiliau plant mewn chwaraeon amrywiol. Mae o gymorth iddynt baratoi ar gyfer bod yn hŷn - pan fyddant yn sr mawr Cymru gobeithio! Rwyn credu y bydd yn cael effaith aruthrol, bydd Campaur Ddraig o gymorth i ni fel gwlad gael hyd ir genhedlaeth nesaf o arwyr y byd chwaraeon au hyfforddin drwyadl.

Yn l Top