Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Syniadau Da > Pêl Droed > Sam Ricketts
Yn l
  Sam Ricketts w  

Neges :
Roedd fy nhaid bob amser yn fy annog er pan oeddwn yn fachgen bach........ mae cael cefnogaeth gan rywun agos atoch o gymorth mawr!


Enw : Sam Ricketts
Sport : Pêl Droed


Cefnwr chwith Dinas Hull a Cymru.

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Mae fy nhad yn gyn-bencampwr byd am neidio ceffylau ac felly roeddwn yn reidio ceffylau ers i mi gael fy ngeni mwy neu lai! Yna, pan ddechreuais fynd ir ysgol, dechreuais gymryd rhan ym mhopeth.

Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Cymaint ag y gallwn! Rygbi, criced, hoci, athletau, rownderi, marchogaeth ceffylau a phl droed.Dydw i ddim yn meddwl bod yna lawer o chwaraeon dydw i heb roi cynnig arnynt.

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Yr hwyl ar mwynhad rydych yn ei gael o chwarae gydach ffrindiau, rhoi cynnig ar chwaraeon newydd a mynd allan ir awyr iach maer cyfan mor iach i chi.

Sut ydych chi'n cadw'n heini ac yn iach?
Yn chwarae pl droed maen rhaid i mi fod yn heini iawn felly mae ymarfer bob dydd yn fy helpu i fod yn gorfforol heini. Rwyf hefyd yn gorfod bod yn ofalus wrth fwyta, maen rhaid bwyta bwydydd syn rhoi egni a digon o fitaminau a mwynau i mi. Rwyf hefyd yn mwynhau bwytan dda ac mae hynnyn gwneud i mi deimlon iach.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Roedd fy nhaid bob amser yn fy annog er pan oeddwn yn fachgen bach - yn fy helpu i wella fy mhl droed. Yn bwysicach na dim, gwnaeth i mi ddefnyddio fy nhroed chwith, felly nawr rwyn gallu defnyddior ddwy droed gystal i gilydd - ymarfer ywr cyfan. Ond mae cael cefnogaeth gan rywun agos atoch o gymorth mawr! Mae hyn wedi golygu fy mod yn gallu chwarae fel cefnwr dros Gymru.Oni bai am fy nhaid, fyddai hynny ddim wedi bod yn bosibl.

Pa mor bwysig yw Campau'r Ddraig yn eich tyb chi? Pa effaith fydd yn ei gael ar chwaraeon Cymru?
Rwyn credu ei fod yn bwysig iawn. Gall cynlluniau fel hyn ddarparu popeth mae plant ei angen i gyrraedd y brig - a digon o hwyl yn y cyfamser. Rwyn siwr y bydd Campaur Ddraig yn cael effaith aruthrol ar chwaraeon Cymru ac y byddwn yn gweld sr y dyfodol yn dod drwodd. Heb y cynllun, yn eu helpu i ddechrau arni mewn chwaraeon, gyda digon o gyfleoedd hwyliog, efallai na fyddent yn llwyddo i gyrraedd y brig.

Yn l Top