27.03.2007
Y DDRAIG YN HUDO YSGOLION DE CYMRU I WYL FAWR
Cafodd llu o blant ysgolion cynradd De Ddwyrain Cymru eu hudo i grafangau Draig o Gymru wrth iddynt ymroi i lu o weithgareddau chwaraeon yn yr Wyl Gampau’r Ddraig gyntaf yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol yng Nghaerdydd (26 Mawrth 2007).
Daeth mwy nag 800 o blant o ysgolion ledled de ddwyrain Cymru i’r arena athletau gwerth £7.1m – sef pencadlys hyfforddi sêr sbrintio fel Christian Malcolm a John McFall – i fwynhau sesiwn drwy’r dydd o ddeg gweithgaredd chwaraeon yn amrywio o tri-golff i hoci a chriced.
Yn gobeithio denu’r prentisiaid o athletwyr oddi wrth wylio ein hathletwyr gwrywaidd a benywaidd elitaidd ar y teledu yn unig, a’u cael i efelychu eu cyflawniadau, nod yr Wyl oedd ceisio sefydlu diddordeb iach mewn chwaraeon a cheisio cael hyd i athletwyr gyda photensial i gipio medalau yr un pryd.
Mae cynllun Campau’r Ddraig, a ariennir gan y loteri – ymgyrch fwyaf Cymru i gael plant ysgolion cynradd i fwynhau chwaraeon y tu allan i oriau ysgol – yn helpu i ddenu mwy o blant at chwaraeon a chynyddu lefelau gweithgarwch.
Yn ei lansiad fis Hydref 2000, dywedwyd mai’r cynllun hwn gan Gyngor Chwaraeon Cymru oedd yr ymgyrch recriwtio fwyaf erioed yn hanes chwaraeon Cymru, a saith mlynedd wedi ei sefydlu, mae wedi parhau i wneud yn well na’r holl ddisgwyliadau.
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 92% o ysgolion cynradd Cymru’n ymwneud â’r cynllun yn awr ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae mwy na 100,000 o gyfranogwyr wedi cael eu recriwtio. Hefyd, mae mwy na 1500 o oedolion – ar wahân i athrawon – yn helpu yn awr gyda chynnal clybiau Campau’r Ddraig ar ôl ysgol.
Ac mae Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling, yn hynod falch o’r ystadegau rhagorol hyn:
“Mae’r ffigyrau hyn yn awgrymu bod Campau’r Ddraig wedi cael effaith sylweddol ar weithgarwch corfforol mewn ysgolion cynradd. Mae’r cyfranogiad yn y rhaglen wedi helpu ysgolion i gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau hefyd, er mwyn helpu i ragori ar dargedau a newid agwedd, sydd wedi sicrhau bod Campau’r Ddraig wedi dathlu pen blwydd hapus iawn yn saith oed!”
A chyda deg awdurdod lleol ledled y De Ddwyrain yn cyflwyno pedair ysgol yr un i gymryd rhan, bu plant o 40 ysgol yng Nghymru’n helpu i ddathlu seithfed pen-blwydd Campau’r Ddraig mewn steil.
Roedd y Gweinidog Chwaraeon, Alun Pugh AC, wrth law i agor y drysau ar sesiwn y prynhawn a buan iawn yr oedd yn rhan o’r gweithgareddau:
“Mae gan sêr y byd chwaraeon rym i ysbrydoli pobl ieuainc ac er mai dim ond ychydig ohonynt all gyrraedd safonau elitaidd, gall pawb fwynhau chwaraeon a’i fanteision drwy gymryd rhan am 60 munud bum gwaith yr wythnos.
“Mae Campau’r Ddraig yn cyflwyno plant i chwaraeon ar lefel hwyliog a sylfaenol gan ehangu eu diddordebau chwaraeon, sef un o amcanion allweddol Dringo’n Uwch – strategaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol Llywodraeth y Cynulliad a lansiwyd gennyf yn 2003 – ac rwy’n hynod falch o weld y cynllun yn mynd o nerth i nerth.”
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Lynette Evans yng Nghyngor Chwaraeon Cymru ar 029 2033 8273 / lynette.evans@scw.co.uk
CEFNDIR:
• Yr ysgolion a oedd yn bresennol yng Ngwyl Campau’r Ddraig:-
|
Sesiwn y Bore |
|
Merthyr Tudful |
Rhondda Cynon Taf |
Blaenau Gwent
|
Pen-y-bont ar Ogwr |
Trefynwy |
|
Y.I. Goetre |
Y.G. Alaw |
Ysgol Gymraeg Brynmawr |
Y.G. Nantymoel |
Y.G. Raglan |
|
Ysgol Gymunedol Abercanaid |
Y.G. Abernant |
Y.G. Glyncoed |
Y.G. Maes yr Haul |
Y.G. Gilwern |
|
Y.G. Heolgerrig |
Y.G. Maesybryn |
Ysgol Gynradd Gymunedol Briery Hill |
Y.G. Garth |
Y.G. Llanfoist |
|
Y.G. Pantyscallog |
Y.G. Pontyclun |
Ysgol Gynradd Ystruth |
Y.G. Porthcawl |
Ysgol Gymraeg
Y Fenni |
|
Sesiwn y Prynhawn |
|
Caerdydd
|
Caerffili |
Bro Morgannwg |
Casnewydd
|
Torfaen
|
|
Y.G. Springwood |
Y.G. Pantside |
Ysgol Sant Baruc |
Y.G. Maesglas |
Ysgol Gymraeg Cwmbran |
|
Y.G. Radyr |
Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin |
Y.G. Ynys Y Barri |
Y.G. Pentrepoeth |
Y.I. Penygarn |
|
Y.I. Glyncoed |
Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili |
Y.G.
Jenner Park |
Y.I Caerleon Endowed |
Y.I. Y Tyllgoed |
|
Y.I. Cwrt Yr Ala |
Y.I. Ystrad Mynach |
Y.G. St Joseph’s RC |
Y.G. Brynglas |
Y.G. Garnteg |
(Y.G. – Ysgol Gynradd / Y.I. – Ysgol Iau)
• Hybir a chyflwynir y cynllun drwy gyfrwng rhwydwaith o Gydlynwyr Campau’r Ddraig llawn amser sydd wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Fe’i cefnogir gan amrywiaeth cynhwysfawr o gardiau adnoddau ac offer i helpu gyda chyflwyno sesiynau Campau’r Ddraig, gydag adnoddau pellach ar gael ar gyfer recriwtio a hyfforddi rheini, athrawon a hyfforddwyr gwirfoddol. Mae’r cynllun hefyd yn helpu i greu cysylltiadau â chlybiau chwaraeon a gweithgareddau cymunedol eraill, drwy gynnig i blant a gwirfoddolwyr gyfleoedd i wneud cynnydd mewn amrywiaeth eang o chwaraeon.
• Mae iechyd plant a phobl ieuainc Cymru’n flaenoriaeth allweddol i Gyngor Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o strategaeth Dringo’n Uwch. Yr her gyffredinol yw cael holl blant ysgolion cynradd Cymru a 90% o blant yr ysgolion uwchradd i gymryd rhan mewn o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos – targed i’w gyrraedd yn ystod yr 20 mlynedd nesaf.
• Golff yw’r gamp ddiweddaraf i gael ei hychwanegu at y rhestr o wyth gweithgaredd sy’n rhan o Gampau’r Ddraig yn awr. Roedd y rhestr eisoes yn cynnwys pêl droed, criced, pêl rwyd, rygbi, tenis, hoci ac athletau.