Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Syniadau Da > Criced > Steve James
Yn l
   

Neges :
"Rwy'n hoffi'r teimlad o chwarae i'n gilydd wrth chwarae i unrhyw dm."


Enw : Steve James
Chwaraeon : Criced


Mae Steve yn cyn gapten o dm criced Morgannwg a batwr disglair dros ben.

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais gymryd rhan mewn chwaraeon pan aeth fy rhieni a^ fi i'r clybiau rygbi a chriced lleol yn Lydney, ble cefais fy magu. Dwi'n meddwl 'mod i'n mynd yno pan oeddwn i yn fy mhram ac yn ymuno yn yr hwyl pan oeddwn yn ddigon hen.

Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Chwaraeais rygbi a chriced yn bennaf, ac ychydig o bl droed, ond dim llawer.

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Rwy'n mwynhau'r teimlad o undod a geir mewn chwaraeon ti^m, a'r hapusrwydd o gyd-rannu llwyddiant. Hefyd y pleser o gymryd rhan mewn rhywbeth sydd wrth eich bodd ac yn eich cadw'n iach!

Sut yr ydych yn cadw'n iach a heini?
Drwy gymryd rhan mewn chwaraeon i ddechrau ond dwi hefyd yn treulio llawer o amser yn y gym, naill ai'n codi pwysau neu'n gwneud ymarferion cardiofasgiwlar. Pur anaml fyddai'n mynd am ddeuddydd heb wneud rhywbeth - ac eithrio nawr, pan nad ydw i'n gallu gwneud dim byd oherwydd llawdriniaeth ar fy mhen-glin. Mae'n fy lladd!

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Ar waha^n i'm rhieni, dyn o'r enw Graham Burgess a oedd yn gyn-chwaraewr gyda Gwlad yr Haf ac yn fy hyfforddi yn yr ysgol yn Nhrefynwy.

Yn l Top