Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon? Fel arfer yn yr ardd gefn gyda fy rhieni a'r ddau dad-cu. Yna gyda ffrindiau ar iard yr ysgol ac ar l ysgol. Fel roedd fy niddordeb mewn rhai campau yn cynyddu, fe wnaeth fy rhieni sicrhau fod hyfforddiant/gwersi ar gael i mi yn y campau hynny.
Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn? Mwy na lai popeth - o rygbi i sglefrolio. Mae hynny'n bwysig gan os ydych yn trio popeth, yna yn y pen draw byddwch yn dod o hyd i gamp yr ydych yn mwynhau yn fawr.
Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon? Drwy chwaraeon rwyf yn cyfarfod a phobl newydd ac yna yn gwneud ffrindiau newydd. Rydych hefyd yn cael y cyfle i deithio'r byd. Bydd chwaraeon yn gymorth i chi hefyd mewn elfennau eraill o fywyd ac yn cynnig y sgiliau i gymdeithasu a phobl yn dda yn eich bywyd dyddiol.
Sut yr ydych yn cadw'n iach a heini? Drwy fwyta bwydydd da e e ffrwythau, llysiau a cig coch. Mynd i'r gampfa ac wrth gwrs chwaraeon.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon? O safbwynt technegol h.y. hyfforddwyr - 1. Tom Cartwright 2. Alan Jones 3. Don Shepherd 4. John Steele 5. John Embury. O safbwynt personol heb unrhyw amheuaeth fy rhieni a tad-cuod a mam-guod. Nhw rhoddodd y cyfleoedd i mi wella fy sgiliau. Maent wedi bod yna o hyd, ac yn dal yna, i'n helpu a phroblemau bywyd. |