Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Syniadau Da > Criced > Adrian Dale
Yn l
   

Neges:
"Mae ennill yn bwysig ond mae chwarae teg a chydweithio fel tim yr un mor bwysig"


Enw : Adrian Dale
Chwaraeon : Criced


Chwarae criced i Forgannwg tan iddo ymddeol mis Medi 2004.

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Roedd fy nhad yn chwarae criced felly roedd yn gam naturiol i mi ei gymryd. Arferwn ddilyn Dad i'r maes a chwarae ar yr ymylon. Roedd fy athrawon yn yr ysgol yn frwdfrydig ynghylch chwaraeon hefyd.

Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Dipyn o bopeth. Roeddwn wrth fy modd efo chwaraeon. Roeddwn yn chwarae rygbi, pel fasged, sboncen a chriced. Roeddwn hefyd yn mwynhau nofio ac athletau.

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Rwy'n mwynhau chwaraeon tim yn arbennig oherwydd y gyfeillgarwch a'r teimlad braf a geir wrth ennill.

Sut ydych chin cadwn heini ac yn iach?
Mae criced wedi newid llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae timau'n gorfod bod yn llawer mwy heini ac felly ceir llawer mwy o ymarferion tim. Hefyd, mae fy ngwraig, Ruth, yn coginio llawer o brydau iach a blasus i mi.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy nhad a'm arwr yn y byd chwaraeon, Ian Botham.

Yn l Top